Yn yr henfyd, Cappadocia neu Capadocia, Twrceg: Kapadokya, Groeg: Καππαδοκία (Kappadokía), oedd yr enw a ddefnyddid am ran sylweddol o ganolbarth Asia Leiaf (Twrci heddiw). Nid yw'n enw rhanbarth swyddogol yn Nhwrci heddiw, ond mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer twristiaeth, gan gyfateb yn fras i dalaith Nevşehir.
Mae Castell Neuschwanstein (Almaeneg: Schloss Neuschwanstein) yn balas adfywiad Romanésg 19eg ganrif ar fryn creigiog uwchben pentref Hohenschwangau ger Füssen yn ne-orllewin Bafaria, Yr Almaen. Roedd y palas wedi ei gomisiynu gan Ludwig II o Bafaria fel encil ac fel teyrnged i Richard Wagner. Yn groes i'r gred gyffredin, talodd Ludwig am y palas allan o'i ffortiwn bersonol a benthyca helaeth, nid ag arian cyhoeddus Bafaria.
Parc cenedlaethol yn nhalaith Santa Cruz yn rhan yr Ariannin o Batagonia yw Parc Cenedlaethol Los Glaciares.