Abaty Cymer

Hen abaty Sistersiaidd ger pentref Llanelltyd, ar lan Afon Mawddach tua dwy filltir i'r gogledd o Ddolgellau yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Abaty Cymer. Saif yr hen abaty yng nghongl cymer Afon Wnion ac Afon Mawddach. Yr hen enw ar y llecyn oedd Cymer Deuddwfr. Enw arall arno oedd Y Faner Gymerbaner yn fenthyciad Cymraeg Canol o'r gair Lladin Canol manerium, "maenor, manor", efallai).

Hanes

Cymer oedd un o'r tai Sistersiaidd olaf i gael eu codi yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1198 gan fynachod o Abaty Cwm Hir dan nawdd Maredudd ap Cynan, cefnder Llywelyn Fawr. Rhoddodd y tywysog Llywelyn ei hun roddion i'r abaty newydd, fel y tyst y siarter Ladin a roddodd i Gymer ym 1209 fel princeps Northwallie ("Tywysog Gogledd Cymru"). Roedd yn dŷ crefyddol Cymreig iawn a chwaraeai ran yng ngwleidyddiaeth yr oes. Fel yn achos abad Aberconwy, er enghraifft, byddai abad Cymer yn cynrychioli Llywelyn Fawr a'i ddisgynyddion mewn trafodaethau gwleidyddol ar adegau. Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn graensau'r abaty ym mis Mai 1275 a 1276, eto ym Mai. Ond dioddefodd Cymer am ei gwladgarwch yn sgîl y goresgyniad Seisnig ym 1284 pan gafodd ei ddifrodi.

Er bod gan yr abaty dir helaeth ar gyfer magu defaid, fe'i nodwyd am ei physgota (mae olion cored yn yr afon ger y safle i'w gweld heddiw) a'i masnach llongau bach. Roedd y diwydiant llaeth a mwyngloddio yn y bryniau yn weithgareddau pwysig hefyd.

Dirywio wnaeth yr abaty ar ôl 1284. Dim ond £12 oedd ei werth ym 1291. Erbyn 1400 dim ond pump o fynachod oedd yno. Ym 1441 daeth dan reolaeth Siôn ap Rhys, "abad" a ddefnyddiai'r abaty er mwyn llenwi ei bocedi ei hun ac enynodd gasineb yn lleol. Ansefydlog iawn fu hanes yr abaty o ganlyniad. Yn ail hanner y bymthegfed ganrif ymddengys ei fod yn cael ei redeg gan fynachod o Loegr, ond dirywio wnaeth yn economaidd o hyd. Roedd yn un o'r olaf o'r tai crefyddol Cymreig i gael ei ddiddymu (oherwydd ei dlodi a'i leoliad anghysbell efallai) ym mis Mawrth, 1537. £51 yn unig oedd ei werth; y tlotaf yng ngogledd Cymru.

Ceir set o hen lestri cymun efydd, a berthynai, meddir, i Abaty Cymer, yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Yr adeiladau

Nid yw'r abaty'n fawr. Codwyd corff yr eglwys ac adeiladau'r mynachod yn ystod can mlynedd cyntaf bodolaeth Abaty Cymer. Doedd dim transept na phresbytri. Codwyd tŵr gorllewinol sgwâr bychan rywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Cadwraeth

Mae'r adfeilion prin yng ngofal Cadw. Ceir maes parcio bach yn eu hymyl.

Llyfryddiaeth

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)
  • K. Williams-Jones, "Llywelyn's Charter to Cymer Abbey in 1209" (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, cyfrol 3 (1957-60), 45-78)

Gweler hefyd

  • Castell Cymer

en: Cymer Abbey

Rhestrir yn y categorïau canlynol:
مرحلة ما بعد تعليق
Awgrymiadau
ترتيب بواسطة:
Trawsfynydd Log Cabin Holiday Village, Snowdonia
Visit the remains of the church and cloister founded in 1198 by Lord of Meirionydd.
5.3/10
Mae 993 o bobl wedi bod yma
خريطة
0.4km from A470, Eryri, Dolgellau, Gwynedd LL40, UK Mynnwch gyfarwyddiadau

Cymer Abbey على Foursquare

Abaty Cymer على Facebook

Gwestai gerllaw

Gweld pob gwesty Gweld popeth
Afon Rhaiadr Country House

gan ddechrau $152

Plas Gwyn B&B and Holiday Cottage

gan ddechrau $96

Dolgun Uchaf

gan ddechrau $99

George III

gan ddechrau $99

Dolserau Hall

gan ddechrau $154

Gwesty Minffordd Hotel

gan ddechrau $78

Golygfeydd argymelledig gerllaw

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Castell y Bere

Castell Cymreig yn ne Gwynedd yw Castell y Bere. Roedd yn un o gestyll

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Chwarel Bryn Eglwys

Lleolir Chwarel Bryn Eglwys yn Nant Gwernol ger Abergynolwyn, de

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Eryri

Rhanbarth o ogledd Cymru yw Eryri. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Dolgoch Falls

Dolgoch Falls (English: Red Meadow) are a series of three waterfalls

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Castell Carndochan

Adfeilion tŵr Castell Carndochan

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Castell Harlech

bawd|de|300px|Y brif fynedfa i Gastell Harlech

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
MOMA, Wales

MOMA or Museum of Modern Art adjacent to Y Tabernacl (English: The

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Tomen y Mur

Mae Tomen y Mur neu Mur y Castell yn safle caer Rufeinig a chastell

مناطق الجذب السياحي مماثلة

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Roche Abbey

Roche Abbey is a now-ruined abbey located near Maltby, South

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Inch Abbey

Inch Abbey is a large, ruined monastic site 0.75 miles (1.2km)

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Grey Abbey

Grey Abbey is a ruined Cistercian priory in the village of Greyabbey,

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Fountains Abbey

Fountains Abbey is near to Aldfield, approximately two miles southwest

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Moreruela Abbey

Moreruela Abbey (Monasterio de Santa María de Moreruela) is a former

الاطلاع على كل الأماكن متشابهة