Abaty enwog ar lan Afon Gwy ger pentref Tyndyrn, Sir Fynwy, yw Abaty Tyndyrn. Sefydlwyd abaty Tyndyrn gan Walter de Clare, Arglwydd Cas-gwent, ar 9 Mai, 1131. Hon oedd ond yr ail sefydliad Sistersaidd ym Mhrydain a'r cyntaf yng Nghymru. Mae'n un o'r adfeilion mwyaf ysblennydd yn y wlad, a ysbrydolodd nifer o gampweithiau; cerdd Tintern Abbey gan William Wordsworth; cerdd Abaty Tyndyrn gan John Blackwell (Alun); nifer o baentiadau gan J. M. W. Turner; ceir yn ogystal band o'r enw "Tintern Abbey".
Roedd Walter de Clare, o deulu pŵerus de Clare, hefyd yn perthyn drwy briodas i'r Esgob William o Gaer-wynt, a gyflwynodd y drefedigaeth gyntaf o Sistersiaid i Waverley yn 1128. Daeth y mynaich i Dyndyrn o dŷ cangen Cîteaux, L'Aumône, yn esgobaeth Blois, Ffrainc.
Dros y blynyddoedd, sefydlodd Tyndyrn dau dŷ cangen, Abaty Kingswood yng Nghaerloyw a Tintern Parva, i'r gorllewin o Loch Garman (Saesneg: Wexford) yn ne-ddwyrain Iwerddon yn 1203. Roedd y mynaich Sistersaidd a oedd yn byw yn Nhyndyrn yn dilyn rheol Sant Benedict. Y Carta Caritatis (Y Siartr Cariad) a osododd eu prif egwyddorion fel hyn:
Gyda'r ffordd llym yma o fyw, y Sistersiaid oedd un o urddau mwyaf llwyddianus y 12fed a'r 13eg ganrif. Mae adfeilion Tyndyrn heddiw yn gymysgedd o adeiladwaith sy'n dyddio dros gyfnod o bedwar can mlynedd rhwng 1136 ac 1536. Ychydig iawn sy'n weddill o'r adeiladau cyntaf, cafodd rhannau o'r waliau cyntaf eu cyfuno yn yr adeiladwaith diweddarach, daw'r ddwy gwpwrdd yn y clwystai dwyreiniol o'r cyfnod hwn. Roedd y capel yn llai ac ychydig i'r gogledd yn yr adeg honno.
Rhannwyd tiroedd yr abaty yn unedau amaethyddol, neu faenorau, roedd pobl lleol yn gwithio ar y maenorau rhain gan roi gwasanaeth megis goaint i'r abaty. Roddwyd nifer o waddolion tir ar ddwy ochr o'r afon i'r abaty. Yn ystod yr 13eg ganrif, ail-adeiladwyd yr abaty bron yn gyfangwbl, y clwystai yn gyntaf ac yna'r rhannau domestig, ac yn olaf y capel mawr rhwng 1269 ac 1301. Roedd Roger Bigod III, arglwydd Cas-gwent ar y pryd, yn gymwynaswr hael; ei ymgymeriad enfawr ef oedd ail-adeiladu'r capel. Rhoddodd yr abaty ei arfbais yng nghwydr y ffenest gorllewinol i ddangos eu diolchgarwch. Hon yw'r capel sydd iw weld yno heddiw. Mae ganddo gynllun croesffurf a chorff gyda eiliau; mae dau gapel ym mhob croesfa a cangell pen sgwar gyda eiliau. Mae'r capel gothig yn cynyrchiloi'r datblygiadau pensaerniol o'i adeg, mewn steil addurniadol gyfoes.
Yn 1326 ymwelodd y Edward II o Loegr â Tyndyrn a dreuliodd ddwy noson yno. Yn 1349, lledaenodd y Pla Du ar drws y wlad a daeth yn amhosib i'r abaty ddenu recriwtiaid newydd ar gyfer y frawdoliaeth lleyg. Newidiodd y ffordd y gweithwyd y maenorau, gan eu rhoi i denantiaid, yn hytrach na cael eu gweithio gan y brodyr llyg, gan ddangos i Dyndyrn ddioddef prinder llafur. Yn y 1400au cynnar, dioddefodd Tyndyrn drafferthion ariannol, yn rhannol oherwydd y gwrthryfel Cymreig dan arweiniaeth Owain Glyndŵr yn erbyn y Saeson; dinistrwyd eiddo'r abatai gan wrthryfelwyr Cymreig.
Digwyddodd y frwydr agosaf i'r abaty yn Craig y Dorth ger Mynwy, rhwng Trellech a Mitchel Troy. Yn ystod teynasiad Henry VIII, daeth bywyd mynachlog traddodiadol i ben yn sydyn yn Lloegr a Chymru yn dilyn ei bolisi o sefydlu rheolaeth cyfangwbl dros y capel, yn rannol er mwyn cymryd mantais o holl gyfoeth y mynachlogau. Ar 3 Medi 1536, ildiodd y Mynach Wyche Abaty Tyndyrn i ymwelwyr y brenin, gan ddod a ffordd o fyw a oedd wedi goroesi pedwar can mlynedd i ben. Anfonwyd yr eitemau gwerthfawr o'r abaty i drysorfa'r brenin a pensiynwyd y Mynach Wyche. Rhoddwyd yr adeilad i Iarll Caerwrangon, gwerthwyd y plwm oddiar y tô a dechreuodd dadfeiliad cragen yr adeilad. Yn ystod y ddwy ganrif canlynol, dangoswyd prin neu ddim diddordeb yn hanes y safle. Yn yr 18fed ganrif daeth yn ffasiynol i ymweld a rhannau mwy gwyllt o'r wlad, daeth Dyffryn Gwy yn arbennig yn adnabyddus am ei rinweddau rhamantus a darluniadwy, ymwelwyd yr abaty, a oedd wedi ei orchuddio gan eiddew, yn aml gan ymwelwyr 'rhamantus'. Ar ôl cyhoeddiad y llyfr Observations on the River Wye gan y Parchedig William Gilpin yn 1782, daeth ymwelwyr i'r safle maewn tyrfaoedd. Yn ystod yr 19eg ganrif, daeth adfeilion abatai yn ganolbwynt ar gyfer ysgolheigion a gwnaethwyd ymchwiliadau pensaerniol ac archaeolegaidd. Prynwyd yr abaty gan y goron yn 1901 am £15,000, ac adnabyddwyd fel cofadail o bwysigrwydd cenedlaethol a gwneathwyd gwaith trwsia a cynnal a chadw. Yn 1914, pasiodd y gyfrifoldeb am y safle ymlaen i'r Office of Works a gwnaethwyd gwaith trwsio strwythrol mawr — tynnwyd yr eiddew, a oedd wedi ei gysidro i fod mor rhamantus gan ymwelwyr gynt, i ffwrdd o'r adeilad.
Yn 1984, cymerodd Cadw gyfrifoldeb dros y safle.
Roedd yr abaty yn leoliad i fideo Iron Maiden, Can I Play with Madness yn 1988.