Cyrchfan sgio yw Alpe d'Huez yng nghymuned Huez, yn département Isère. Fe'i lleolir ar borfa mynyddig yn yr Alpau ar lefel o 1860 metr (3330 troedfedd) uwchben y môr.
Mae Alpe d'Huez yn un o'r mynyddoedd pwysicaf yn y Tour de France. Mae cymal wedi gorffen yno bron pob blwyddyn ers 1976. Cynhaliwyd y cyntaf yno yn 1952 ac enillodd Fausto Coppi.
Daethpwyd a'r ras i'r mynydd gan Élie Wermelinger, y prif commissaire (dyfarnwr). Gyrroedd ei gar, Dyna-Panhard, rhwng y cloddiau o eira a safai naill ochr i'r ffordd ym mis Mawrth 1952, wedi iddo gael ei wahodd gan gonsortiwm o fusnesau a oedd wedi agor gwestai ar y copa. Georges Rajon, a oedd yn rhedeg Hotel Christina, oedd arweinydd y consortiwm. Agorodd yr orsaf sgio yno ym 1936, felly roedd y ffordd wedi cael ei ledaenu er ei fod yn llawn tyllau. Adroddodd Wermelinger yn ôl at y trefnydd, Jacques Goddet, ac arwyddodd y Tour gytundeb gyda'r dynion busnes i gynnwys Alpe d'Huez yn llwybr y Tour. Costiodd swm sy'n gyfartal i €3,250 mewn arian cyfoes.
Yn y cymal cyntaf ar Alpe d'Huez, ymosododd Fausto Coppi 6km o'r copa er mwyn disgyn y reidiwr Ffrangeg, Jean Robic, gan fynd ymlaen i ennill. Dywedodd Coppi ei fod yn gwybod iddo ei ddisgyn gan na allai glywed ei anadlu na sŵn teiars ar y ffordd y tu ôl iddo bellach. Trodd yr Alpe yn ledrith yn syth oherwydd mai hwn oedd y tro cyntaf i feiciau modur, gyda criwiau ffilmio ar gyfer y teledu, ddilyn y Tour. Dyma hefyd oedd y tro cyntaf i gymal y Tour orffen ar gopa mynydd.
Wedi buddugoliaeth Coppi, ni gynhwyswyd yr Alpe hyd 1964, ac bu absenodeb arall unwaith eto hyd 1976, ymddangosodd y ddwy dro hwn oherwydd cynnig Rajon.
Mae'r esgyniad yn 13.8km o hyd ar lethr ar gyfartaledd o 7.9%, mae 21 tro pin-gwallt (les 21 virages), pob un wedi eu enwi ar ôl enillydd cymal 'r Tour yno. Roedd gormod o enillwyr erbyn iddo gael ei gynnal am yr 21ain tro, fell ychwanegwyd enw Lance Armstrong at enw Coppi ar y tro cyntaf ar waelod yr allt.
Mae torf anrhefnus o wyliwyr ar yr Alpe yn aml. Cafodd Giuseppe Guerini ei daro oddi ar ei feic ym 1999, pan neidiodd gwyliwr allan i dynnu ei lun, fe aeth Guerini ymlaen i ennill y cymal er hynnu. Daeth anrhefn yn ystod treial amser unigol 2004 pen ddechreuodd y gwyliwyr wthio'r reidwyr fyny tuag at y copa. Mae ffigyrau'r gwylwyr yn yn amrywio'n fawr, ac nid yn gwbl ddibynadwy, hawliwyd fod miliwn yno ym 1997. Ond dywedodd Maer Alpe d'Huez, Eric Muller, y bu 350,000 yno ym 2001, er i bawb honni fod y ffigwr yn dringo yn flynyddol.
Gorffennodd cymal 2008 ar uchder o 1850 metr yn hytrach na 1860 fel y bu ym mhob cymal cynt.
Blwyddyn | Cymal | Cychwyn | Pellter (km) | Categori | Enillydd y cymal | Cenediglrwydd | Crys Melyn | Tro |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
2008 | 17 | Embrun | 210.5 | HC | Carlos Sastre | Sbaen | Carlos Sastre | 17 |
2006 | 15 | Gap | 187 | HC | Fränk Schleck | Luxembourg | Floyd Landis | 18 |
2004 | 16 | Bourg-d'Oisans | 15.5 (ITT) | HC | Lance Armstrong | Unol Daleithiau America | Lance Armstrong | 19 |
2003 | 8 | Sallanches | 219 | HC | Iban Mayo | Sbaen | Lance Armstrong | 20 |
2001 | 10 | Aix-les-Bains | 209 | HC | Lance Armstrong | Unol Daleithiau America | Lance Armstrong | 21 |
1999 | 10 | Sestrières | 220.5 | HC | Giuseppe Guerini | Yr Eidal | Lance Armstrong | 1 |
1997 | 13 | Saint-Etienne | 203.5 | HC | Marco Pantani | Yr Eidal | Jan Ullrich | 2 |
1995 | 10 | Aime–La Plagne | 162.5 | HC | Marco Pantani | Yr Eidal | Miguel Indurain | 3 |
1994 | 16 | Valréas | 224.5 | HC | Roberto Conti | Yr Eidal | Miguel Indurain | 4 |
1992 | 14 | Sestrières | 186.5 | HC | Andrew Hampsten | Unol Daleithiau America | Miguel Indurain | 5 |
1991 | 17 | Gap | 125 | HC | Gianni Bugno | Yr Eidal | Miguel Indurain | 6 |
1990 | 11 | Saint-Gervais–Mont Blanc | 182.5 | HC | Gianni Bugno | Yr Eidal | Ronan Pensec | 7 |
1989 | 17 | Briançon | 165 | HC | Gert-Jan Theunisse | Yr Iseldiroedd | Laurent Fignon | 8 |
1988 | 12 | Morzine | 227 | HC | Steven Rooks | Yr Iseldiroedd | Pedro Delgado | 9 |
1987 | 20 | Villard-de-Lans | 201 | HC | Federico Echave | Sbaen | Pedro Delgado | 10 |
1986 | 18 | Briançon–Serre Chevalier | 182.5 | HC | Bernard Hinault | Ffrainc | Greg LeMond | 11 |
1984 | 17 | Grenoble | 151 | HC | Luis Herrera | Colombia | Laurent Fignon | 12 |
1983 | 17 | La Tour-du-Pin | 223 | HC | Peter Winnen | Yr Iseldiroedd | Laurent Fignon | 13 |
1982 | 16 | Orcières-Merlette | 123 | HC | Beat Breu | Y Swistir | Bernard Hinault | 14 |
1981 | 19 | Morzine | 230.5 | HC | Peter Winnen | Yr Iseldiroedd | Bernard Hinault | 15 |
1979* | 18 | Alpe d'Huez | 118.5 | HC | Joop Zoetemelk | Yr Iseldiroedd | Bernard Hinault | 16 |
1979* | 17 | Les Menuires | 166.5 | HC | Joaquim Agostinho | Portiwgal | Bernard Hinault | 17 |
1978 | 16 | Saint-Etienne | 240.5 | 1 | Hennie Kuiper | Yr Iseldiroedd | Joop Zoetemelk | 18 |
1977 | 17 | Chamonix | 184.5 | 1 | Hennie Kuiper | Yr Iseldiroedd | Bernard Thévenet | 19 |
1976 | 9 | Divonne-les-Bains | 258 | 1 | Joop Zoetemelk | Yr Iseldiroedd | Lucien Van Impe | 20 |
1952 | 10 | Lausanne | 266 | 1 | Fausto Coppi | Yr Eidal | Fausto Coppi | 21 |
*Roedd dau gymal ar Alpe d'Huez ym 1979.
Defnyddir y cpa hefyd fel diwedd La Marmotte, reid un dydd 175 km o hyd sy'n cynnwyd 5000m o ddringo. Defnyddir hefyd ar gyfer sgio lawr allt neu sgio Alpaidd.
Mae esgyniad yr allt i Alp d'Huez wedi cael ei amseru yn swyddogol ers 1994, felly mae cryn ddadl ynglyn a'r amserau cyn hyn. Rhwng 1994 ac 1997, amserwyd yr esgyniad o 14.5 km o'r diwedd. Ers 1999, mae diwedd-ffoto wedi cael ei ddefnyddio o 14 km o'r diwedd. Mae amserau eraill wedi cael eu cofnodi o 13.8 km o'r copa, sef dechrau swyddogol yr esgyniad. Mae eraill wedi cael eu cofnodi o 700m o gychwyn yr esgyniad.
Rheng | Amser | Enw | Blwyddyn | Cenediglrwydd |
---|---|---|---|---|
1 | 37' 35" | Marco Pantani | 1997 | Yr Eidal |
2* | 37' 36" | Lance Armstrong | 2004 | Unol Daleithiau America |
3 | 38' 00" | Marco Pantani | 1994 | Yr Eidal |
4 | 38' 01" | Lance Armstrong | 2001 | Unol Daleithiau America |
5 | 38' 04" | Marco Pantani | 1995 | Yr Eidal |
6 | 38' 23" | Jan Ullrich | 1997 | Yr Almaen |
7 | 38' 34" | Floyd Landis** | 2006 | Unol Daleithiau America |
8 | 38' 35" | Andreas Klöden | 2006 | Yr Almaen |
9* | 38' 37" | Jan Ullrich | 2004 | Yr Almaen |
10 | 39' 02" | Richard Virenque | 1997 | Ffrainc |
11 | 39' 06" | Iban Mayo | 2003 | Sbaen |
12* | 39' 17" | Andreas Klöden | 2004 | Yr Almaen |
13* | 39' 21" | Jose Azevedo | 2004 | Portiwgal |
14 | 39' 28" | Miguel Induráin | 1995 | Sbaen |
15 | 39' 28" | Alex Zülle | 1995 | Y Swistir |
16 | 39' 30" | Bjarne Riis | 1995 | Denmarc |
17 | 39' 31" | Carlos Sastre | 2008 | Sbaen |
18 | 39' 44" | Gianni Bugno | 1991 | Yr Eidal |
19 | 39' 45" | Miguel Induráin | 1991 | Sbaen |
20 | 40' 00" | Jan Ullrich | 2001 | Yr Almaen |
21 | 40' 46" | Fränk Schleck | 2006 | Luxembourg |
22 | 40' 51" | Alexander Vinokourov | 2003 | Kazakhstan |
23 | 41' 18" | Lance Armstrong | 2003 | Unol Daleithiau America |
24 | 41' 50" | Laurent Fignon | 1989 | Ffrainc |
25 | 41' 50" | Luis Herrera | 1986 | Colombia |
26 | 42' 15" | Pedro Delgado | 1989 | Sbaen |
27 | 45' 20" | Gert-Jan Theunisse | 1989 | Yr Iseldiroedd |
28 | 45' 22" | Fausto Coppi | 1952 | Yr Eidal |
29 | 48' 00" | Greg Lemond | 1986 | Unol Daleithiau America |
30 | 48' 00" | Bernard Hinault | 1986 | Ffrainc |
* Ar ffurf treial amser unigol.
** Canfyddwyd yn euog o ddefnyddio cyffurio yn y rhifyn hwnnw o'r
Tour de France.
Mae'r gyrchfan hefyd yn denu nifer o feicwyr mynydd yn ystod yr haf, yn arbennig adeg ras Megavalanche, ras dygner lawr allt sy'n mynd a'r reidwyr o'r orsaf lifft i'r copa uchaf, Pic Blanc, cyn iddynt reidio i lawr i Alamond ar lawr y dyffryn.
Mae Alpe d'Huez yn un o brif gyrchfannau sgio Ewrop. Dyma oedd safle lifft cyntaf Pomagalski ar yr arwyneb yn ystod yr 1930au, daeth y gyrchfan yn boblogaidd pan gynhaliwyd cystadlaeuthau bobsleigh Gemau Olympaidd y Gaeaf 1968 yno. Cysidrwyd y gyrchfan yn gystadleuydd i Courchevel, cyrchfan mwyaf uwch-farchnad Ffrainc ar y pryd a oedd wedi ei adeiladu'n bwrpasol, ond wedi datblygiad Les Trois Vallées, Val d'Isère, Tignes, La Plagne a Les Arcs daeth Alpe D'Huez yn llai poblogaidd yn ystod yr 1970au a'r 1980au cynnar.
Gefeilldrefi Alpe d'Huez yw: