Llosgfynydd 2,277 metr yw Beerenberg, sy'n ffurfio rhan gogledd-orllewinol ynys Jan Mayen yn Norwy. Ceir ceudwll oddeutu 1km o led sydd wedi'i lenwi'n bennaf gan iâ ar frig y llosgfynydd, ac mae sawl brig ar ei ymyl, gan gynnwys copa uchaf y llosgfynydd - Haakon VII Toppen, ar ochr gorllewinol y mynydd.
Mae llethrau uchaf y llosgfynydd wedi'u gorchuddio'n bennaf gan iâ, ac mae sawl rhewlif mawr (gan gynnwys pump sy'n cyrraedd y môr. Rhewlif Weyprecht yw'r hiraf ohonynt, sy'n llifo o geudwll y copa hyd at yr ymyl gogledd-ddwyreiniol, ac mae'n ehangu dros tua 6km tuag at y môr.
Gwnaeth y llosgfynydd ffrwydro ddiwethaf yn 1985 a 1970 Bu iddo hefyd erydu yn 1732, 1818, a 1851.
Ystyr ei enw yn yr Iseldireg yw "Mynydd yr Arth", sy'n hanu o'r eirth gwyn a welodd pysgotwyr morfilod o'r Iseldiroedd ar ddechrau'r 17g.