Llyfrgell genedlaethol Ffrainc yw'r Bibliothèque nationale de France (BnF), a leolir ym Mharis. Ynghyd â'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain, mae'n un o ddau lyfrgell mwyaf Ewrop; mae 14 miliwn o lyfrau a chylchgronau yno, ynghyd ag amryw o gasgliadau eraill. Mae'r sefydliad yn tarddu'n ôl i lyfrgell preifat Siarl V, brenin Ffrainc. Agorodd y llyfrgell i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1692, ac ers 1793 mae wedi dal copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn Ffrainc. O 1996 i 1998 symuodd nifer o gasgliadau i safle newydd a elwir yn safle "François Mitterrand" ar ôl yr arlywydd a'i gomisiynodd; mae'r safle hŷn bellach yn dwyn yr enw "Cardinal de Richelieu".