Mynydd yn y Karakoram ar y ffîn rhwng Pakistan a Tsieina yw Broad Peak (Hunza: Faihan Kangri, ond yr enw Saesneg a ddefnyddir yn rhyngwladol). Cafodd yr enw K3 pan wnaed archwiliad o'r ardal yn 1856 gan dim dan arweiniad Henry Haversham Godwin-Austen, ond newidiwyd yr enw yn ddiweddarach. Gydag uchder o 8,047 medr, mae'n un o'r pedwar copa ar ddeg dros 8,000 medr. Saif gerllaw K2 a chopaon Gasherbrum.
Dringwyd y mynydd gyntaf ar 9 Mehefin 1957 gan yw Awstriaid Marcus Schmuck, Fritz Wintersteller, Kurt Diemberger a Hermann Buhl.