Castell ar gyrion tref Biwmares, Ynys Môn yw Castell Biwmares.
Cafodd ei gynllunio gan James o St James yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i adeiladwyd ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Dinistriwyd tref Llan-faes yn y gwrthryfel hwnnw, a chafodd rhai o'r cerrig o'r fynachlog enwog eu defnyddio i godi'r castell. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau.
Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog.
Ar 27 Gorffennaf 1593, cafodd yr offeiriad Catholig o Gymro William Davies, a gofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, ei ddienyddio yn y castell trwy ei grogi, tynnu a chwarteru. Canoneiddwyd William Davies gan y Pab yn 1987.
Cynhaliwyd eisteddfod yng nghwrt y castell yn 1832.
Mae'r castell yng ngofal Cadw ac, fel un o gestyll gogledd Cymru, mae ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1986. Mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn.