Lleolir Castell Llanfleiddan (hefyd Castell Sain Quentin) ym mhentref Llanfleiddan ym Mro Morgannwg. Mae'r enw amgen yn cyfeirio at y teulu St Quintin a oedd yn trigo yno cyn 1233. Cyn adeiladu'r gorthwr yn y 12fed ganrif safai bryngaer hynafol o'r enw Caer Dynnaf ar y safle. Adeiladwyd y porthdy gan Gilbert III de Clare, mae'n debyg ym 1312, ond ni orffennwyd hyn oherwydd i Gilbert farw ym Mrwydr Bannockburn ym 1314. Mae'n debyg o ran arddull i borthdy Castell Caerffili, a godwyd gan Gilbert II de Clare, a phorthdy Llys yr Esgob yn Llandaf. Mae'r castell bellach yng ngofal Cadw.