Cofadail yn Sgwâr Trafalgar yng nghanol Llundain yw Colofn Nelson (Saesneg: Nelson's Column) a godwyd er coffa'r Llyngesydd Horatio Nelson, bu farw ym Mrwydr Trafalgar ym 1805. Dyluniwyd gan William Railton ac adeiladwyd rhwng 1840 a 1843 am gost o £47,000. Colfon o'r dull Corinthaidd yw hi a adeiladwyd o wenithfaen Dartmoor.