Cadeirlan Anglicanaidd yn Ninas Llundain ydy Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Cysegrwyd yr eglwys wreiddiol ar y safle, wedi'i chysegru at yr Apostol Paul, yn 604 OC. Adeiladwyd yr adeilad presennol yn yr arddull Baróc gan Syr Christopher Wren, yn dilyn difrod y gadeirlan ganoloesol (a'i hadnewyddwyd yn y 1630au gan Inigo Jones) yn Nhân Mawr Llundain yn 1666. Codwyd adeilad Wren rhwng 1675 a 1709.