El Escorial

Safle Brenhinol San Lorenzo de El Escorial (Sbaeneg: Monasterio y Sitio de El Escorial en Madrid), a elwir yn gyffredin fel Monasterio del Escorial, yw gartref hanesyddol i'r Brenin Sbaen, yn nhref San Lorenzo de El Escorial, tua 28 milltir (45km) i'r gogledd-orllewin o brifddinas Sbaen, Madrid. Mae'n un o safleoedd brenhinol Sbaen, ac mae'n gweithredu fel mynachlog, basilica, palas brenhinol, pantheon, llyfrgell, amgueddfa, prifysgol, ysgol ac ysbyty. Fe'i lleolir 1.28 milltir (2.06km) i fyny'r dyffryn o dref El Escorial.

Mae El Escorial yn cynnwys dau gyfadeilad pensaernïol o arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol: y fynachlog frenhinol ei hun a La Granjilla de La Fresneda, caban hela brenhinol ac enciliad mynachaidd tua phum cilomedr i ffwrdd. Mae gan y safleoedd hyn natur ddeuol; hynny yw, yn ystod yr 16eg a'r 17eg ganrif, nhw oedd yn llefydd lle daeth pŵer brenhiniaeth Sbaen a goruchafiaeth eglwysig yr Eglwys Gatholig yn Sbaen at ei gilydd gyda syniad pensaernïol cyffredin. Yn wreiddiol roedd yn eiddo i'r mynachod Hieronymite, daeth yn fynachlog o Urdd Sant Awstin. Roedd hefyd yn ysgol breswyl (Real Colegio de Alfonso XII).

Cyflogodd Felipe II o Sbaen (a deyrnasodd 1556–1598) y pensaer Sbaenaidd Juan Bautista de Toledo i fod yn gydweithredwr iddo wrth adnewyddu ac ehangu'r cyfadeilad yn El Escorial. Roedd Juan Bautista wedi treulio'r rhan helaethaf o'i yrfa yn Rhufain, lle bu'n gweithio ar fasilica Sant Pedr, ac yn Napoli, lle' roedd wedi gwasanaethu llywodraethwr y brenin. Penododd Felipe ef yn bensaer brenhinol ym 1559, a gyda'i gilydd fe wnaethant ddylunio El Escorial fel cofeb i rôl Sbaen fel calon y byd Cristnogol.

Ar 2 Tachwedd 1984, cyhoeddodd UNESCO Sedd Frenhinol San Lorenzo de El Escorial yn Safle Treftadaeth y Byd. Mae'n atyniad poblogaidd i dwristiaid, ac yn aml mae pobl yn gwibdeithio o Fadrid i'w ymweld - daw mwy na 500,000 o ymwelwyr i El Escorial bob blwyddyn.

Dyluniad

Mae El Escorial ar waelod Mt. Abantos yn y Sierra de Guadarrama. Dewiswyd y lleoliad addawol hwn, er nad oedd yn ddewis amlwg ar gyfer safle palas brenhinol, gan Frenin Felipe II. Ef a ordeiniodd adeiladu adeilad mawreddog yma i goffáu buddugoliaeth Sbaen ym Mrwydr St. Quentin ym Mhicardie ym 1557 yn erbyn Harri II, brenin Ffrainc. Roedd hefyd yn bwriadu i'r cyfadeilad wasanaethu fel necropolis ar gyfer claddu gweddillion ei rieni, Siarl I ac Isabella o Bortiwgal, ei hun, a'i ddisgynyddion. Hefyd rhagwelodd Felipe El Escorial fel canolfan astudiaethau er budd achos y Gwrth-Ddiwygiad.

Gosodwyd conglfaen yr adeilad ar 23 Ebrill 1563. Goruchwyliwyd y dyluniad a'r adeiladwaith gan Juan Bautista de Toledo, er nad oedd yn byw i weld cwblhau'r prosiect. Ar ôl marwolaeth Toledo ym 1567, fe wnaeth ei brentis, Juan de Herrera, cwblhau'r adeilad ym 1584, mewn llai na 21 mlynedd. Hyd heddiw, mae la obra de El Escorial ("gwaith yr El Escorial") yn fynegiant diarhebol am beth sy'n cymryd amser hir i'w orffen.

Ers hynny, El Escorial fu'r safle claddu ar gyfer y rhan fwyaf o frenhinoedd Sbaen dros y pum canrif ddiwethaf, y Bourbonau yn ogystal â'r Habsburgau. Mae'r Pantheon Brenhinol yn cynnwys beddau'r Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd Carlos V (a oedd yn llywodraethu Sbaen fel Brenin Carlos I), Felipe II, Felipe III, Felipe IV, Carlos II, Luis I, Carlos III, Carlos IV, Ferdinand VII, Isabella II, Alfonso XII, ac Alfonso XIII. Ond dau frenin Bourbon, Felipe V (1700–1724) a Ferdinand VI (1746–1759), yn ogystal â'r Brenin Amadeus (1870-1873), sedd heb eu claddu yn y fynachlog.

Mae cynllun llawr yr adeilad ar ffurf gradell. Y gred draddodiadol yw bod y dyluniad hwn wedi'i ddewis er anrhydedd i St Lawrens, a ferthyrwyd trwy gael ei rostio i farwolaeth ar gril. Diwrnod gwledd St. Lawrens yw 10 Awst, yr un dyddiad â Brwydr St Quentin yn 1557. Fodd bynnag, mae tarddiad cynllun yr adeilad yn eithaf dadleuol. Nid oedd y siâp gradell i'w weld yn y cynlluniau cynnar, ac nid yw'n unigryw i El Escorial o bell ffordd. Codwyd adeiladau eraill gyda chyrtiau mewnol yn wynebu eglwysi neu gapeli, er enghraifft Coleg y Brenin, Caergrawnt sy'n dyddio o 1441; yr hen Ospedale Maggiore, ysbyty cyntaf Milan, a ddechreuwyd ym 1456, cynllun yr Alcázar Seville, a dyluniad yr Alhambra yn Granada.

Serch hynny, y theori fwyaf perswadiol ar gyfer tarddiad y cynllun llawr yw ei fod yn seiliedig ar ddisgrifiadau o Deml Solomon gan yr hanesydd Judeo-Rufeinig, Flavius Josephus: portico wedi'i ddilyn gan gwrt agored i'r awyr, yna ail bortico ac ail gwrt, pob un ag arcedau a choridorau caeedig, yn arwain at y "sanctaidd mwyaf sanctaidd". Mae cerfluniau o David a Solomon ar y naill ochr a'r llall i fynedfa'r basilica yn rhoi pwysleisio ymhellach y theori mai dyma wir darddiad y dyluniad. Yn adleisio’r un thema, mae ffresgo yng nghanol llyfrgell yr El Escorial sy’n dangos doethineb chwedlonol Solomon, yn cadarnhau ymglymiad Felipe gyda’r brenin Iddewig mawr, ei gymeriad meddylgar a rhesymegol, a’i deml goffa hynod.

Addaswyd dyluniad Teml Solomon, os taw hwn yw wir ysbrydoliaeth yr El Escorial, yn helaeth i ddarparu swyddogaethau a'r dibenion ychwanegol yr oedd Felipe II yn bwriadu i'r adeilad eu gwasanaethu. Yn ogystal â mynachlog, mae El Escorial hefyd yn bantheon, basilica, lleiandy, ysgol, llyfrgell, a phalas brenhinol. Arweiniodd yr holl ofynion swyddogaethol hyn at ddyblu maint yr adeilad o adeg ei ddyluniad gwreiddiol.

Mae El Escorial wedi'i adeiladu'n bennaf o wenithfaen llwyd a chwarelwyd yn lleol Mae El Escorial yn addawol, yn sgwâr ac wedi'i addurno'n brin, yn ymddangos yn debycach i gaer na mynachlog neu balas. Mae ar ffurf bedrongl enfawr, tua 224m gan 153m, sy'n amgáu cyfres o goridorau croestoriadol a chyrtiau a siambrau. Ym mhob un o'r pedair cornel mae twr sgwâr gyda phigdwr arno, ac, yng nghanol y gyfadeilad mae clochdyrau a chromen gron y basilica. Roedd cyfarwyddiadau Felipe i Toledo yn syml ac yn glir, dylai'r penseiri gynhyrchu "symlrwydd yn yr adeiladwaith, difrifoldeb yn y cyfan, uchelwyr heb haerllugrwydd, mawredd heb sioe."

Ar wahân i'w ddibenion penodol, mae'r cyfadeilad hefyd yn storfa gelf enfawr. Mae'n arddangos campweithiau gan Titian, Tintoretto, Benvenuto Cellini, El Greco, Velázquez, Rogier van der Weyden, Paolo Veronese, Alonso Cano, José de Ribera, Claudio Coello ac eraill. Mae'r llyfrgell yn cynnwys miloedd o lawysgrifau amhrisiadwy; er enghraifft, mae casgliad y Swltan Zidan Abu Maali, a fu'n rheoli Moroco rhwng 1603 a 1627, wedi'i gartrefu yn El Escorial.

Adrannau'r adeilad

  • Cwrt y Brenhinoedd
  • Basilica
  • Palas Felipe II
  • Neuadd y Brwydrau
  • Claddgelloedd Brenhinol
  • Oriel Gelf
  • Amgueddfa bensaernïol
  • Gerddi'r Brodyr
  • Llyfrgell

Y creirfeydd

Yn dilyn rheol gan Gyngor Trent yn delio a pharch tuag at seintiau, rhoddodd Felipe II i'r fynachlog un o greirfeydd mwyaf y byd Catholig. Mae'r casgliad yn cynnwys tua 7,500 o greiriau, sy'n cael eu storio mewn 570 o greirfeydd a cerfluniwyd a ddyluniwyd gan Juan de Herrera. Adeiladwyd y mwyafrif ohonynt gan y crefftwr, Juan de Arfe Villafañe. Mae'r creirfeydd hyn i'w cael mewn ffurfiau amrywiol iawn (pennau, breichiau, casys pyramid, coffrau, ac ati) ac fe'u dosberthir trwy'r fynachlog, gyda'r pwysicaf yn y basilica.

مرحلة ما بعد تعليق
Awgrymiadau
ترتيب بواسطة:
S P
21 June 2019
Really worth a visit. One of the many wonderful historical places in Spain. Half a day to visit the monastery, library, church and Palace, followed by a stroll and lunch near the Ajumento. An A++ day!
Iouri Pereltsvaig
9 September 2014
The library, the altar, 2 crucifixion sculptures by Bernini and Chellini, The last supper by Titian, 2 large pictures by Bosch, and one by Patinir make it a world class museum for art lovers.
Gabriel Pereda
16 August 2015
It has very nice view from any point. And also it is very easy and practical to get there. Mad the way from the train station is verry nice. The food at any restaurant is very good.
Rolando Ando/chefcito
11 February 2017
10 euros el acceso, no dejan tomar fotos sólo en los exteriores, impresionante el monasterio, pero no dejes de recorrer sus jardines externos, son preciosos, cierran a 6pm. Ve con tiempo!
Eduardo Moreno Calero
5 August 2013
El Panteón de Reyes así como el resto del Monasterio (excepto la parte de clausura) se puede visitar con o sin guía.La entrada normal es 10€,reducido de 5€ para estudiantes menores de 25 años.PRECIOSO
Pensar En Psicología
30 May 2018
La arquitectura e historia no tienen comparación, se requiere todo el día para disfrutar todo el recorrido, vale la pena sin la menor duda.

Gwestai gerllaw

Gweld pob gwesty Gweld popeth
Exe Victoria Palace

gan ddechrau $104

Miranda & Suizo

gan ddechrau $70

Hotel Florida

gan ddechrau $52

Sercotel Hotel Los Lanceros

gan ddechrau $47

Posada Don Jaime

gan ddechrau $70

Hospedería Santa Cruz

gan ddechrau $42

Golygfeydd argymelledig gerllaw

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Valle de los Caídos

The Valle de los Caídos (in English: Valley of the Fallen) is a

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
New Castle of Manzanares el Real

The New Castle of Manzanares el Real, also known as Castle of los

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Palace of Zarzuela

Zarzuela Palace (español. Palacio de la Zarzuela,

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Royal Palace of Riofrío

The Royal Palace of Riofrío (español. Palacio Real de Riofrío) is on

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Royal Palace of El Pardo

The Royal Palace of El Pardo (Spanish: Palacio Real de El Pardo) is

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Bulls of Guisando

The Bulls of Guisando (Spanish: Toros de Guisando) are a set of

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
La Granja palace

The Royal Palace of La Granja de San Ildefonso is an 18th century

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Royal Palace of La Granja de San Ildefonso

The Royal Palace of La Granja de San Ildefonso (Spanish: Palacio Real

مناطق الجذب السياحي مماثلة

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Palas San Steffan

Adeilad yn Llundain sy'n gartref i Senedd y Deyrnas Unedig yw Plas San

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Y Ddinas Waharddedig

Cyfadeilad palasaidd yng nghanol Beijing yn Tsieina yw'r Ddinas

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Versailles

Tref yn Ffrainc, tua 19 km i'r de-orllewin o ddinas Paris, yw

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Pena National Palace

The Pena National Palace (Palácio Nacional da Pena) is the oldest

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Alhambra

Palas o'r canol oesoedd oedd yn perthyn i frenhinoedd Islamaidd

الاطلاع على كل الأماكن متشابهة