Parc cenedlaethol yn ne Lloegr yw'r Fforest Newydd. Saif yr ardal yn ne-orllewin Hampshire a rhan o Wiltshire, ac mae'n cynnwys rhan fawr o arfordir Hampshire.
Mae llawer o bentrefi yn yr ardal, ac ychydig o drefi bach hefyd. Lyndhurst yw'r brif dref ohonynt.
Telegraph Hill yw'r pwynt uchaf, gyda chopa 167m uwchben lefel y môr. Mae llawer o filltiroedd o lwybrau beic yn y parc.