Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Grímsvötn a echdorodd ar 21 Mai, 2011.
Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol. Achosodd hefyd cyfres o ddaergrynfeydd a pheidiwyd a hedfan yn yr Ynys Las, yr Alban a Norwy rhwng 22-23 Mai, 2011.
Fe'i lleolir ar rewlif Vatna Jökull, yn ucheldiroedd yr ynys.