Adfail manordy canoloesol yn Llanfair, ger y Bont-faen ym Mro Morgannwg, yw Hen Gastell y Bewpyr neu Hen Fewpyr. Bu'r teulu Basset yn byw yno o'r 14eg ganrif tan 1709. Mae'r adeilad heddiw yng ngofal Cadw. Y mae yn nodweddiadol am ei borthdy Tuduraidd, lle ceir colofnau yn y cyweiriau Dorig, Ionig a Corinthiaidd wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd. Dyma enghraifft brin o bensaernïaeth glasurol yn treiddio i Gymru yn y Dadeni Dysg. Fe gynlluniwyd a cherfiwyd y porthdy yng Ngwlad yr Haf ac yna allforiwyd ef i Forgannwg.