Lleolir Llyfrgell Genedlaethol y Weriniaeth Tsiec (Tsieceg: Národní knihovna České republiky) ym Mhrag. Delir dros 6.5 miliwn o gyfrolau yno. Ei phrif safle yw adeilad Baróc y Klementinum, a'i adeiladwyd fel coleg ar gyfer yr Iesuwyr. Mae'r casgliad yn seiliedig ar lyfrgell hanesyddol yr Univerzita Karlova (Prifysgol Siarl); rhoddwyd y llawysgrifau cyntaf gan yr ymerawdwr Siarl IV ym 1366. Ers 1935 mae'r llyfrgell wedi dal copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yn Tsiecoslofacia a'i olynydd y Weriniaeth Tsiec.