Dau lyn ger y ffîn rhwng Albania, Gwlad Groeg a Gweriniaeth Macedonia yw Llyn Prespa neu Llynnoedd Prespa'. Rhennir Llyn Prespa Mawr rhwng y tair gwlad, tra mae Llyn Prespa Bach yn cael ei rannu rhwng Groeg ac Albania.
Saif y llynnoedd 853 medr uwch lefel y môr. Llifa'r dwr trwy sianeli tanddaearol yn y karst i lawr i Lyn Ohrid, 150 medr yn is. Y dref bwysicaf ger y llynnoedd yw Resen, yng Ngweriniaeth Macedonia.