Llyn Vättern yw llyn ail-fwyaf Sweden a'r chweched o ran maint yn Ewrop, gydag arwynebedd o tua 1,912 km². Saif yng nghanolbarth de Sweden.
Y rhan ddyfnaf yw'r ardal ychydig i'r de o ynys Visingsö, sy'n cyrraedd 128 medr. Mae'r trefi ar ei lan yn cynnwys Vadstena, Jönköping, Hjo, Askersund, Åmmeberg a Karlsborg.