Mae Maes Awyr Rhyngwladol Hong Cong ar ynys Chek Lap Kok.
Côd IATA y maes awyr yw HKG, a chôd ICAO yw VHHH. Agorwyd y maes awyr ar 6 Gorffennaf 1998. Mae'n 34 cilomedr o ganol ddinas Hong Cong. Mae rheilffordd yn mynd i'r ddinas, a bysiau i'r ddinas a thir mawr Tseina.
Disodlwyd Maes Awyr Kai Tak,ar lannau harbwr Hong Cong, gan yr un presennol.