Nimrud

Dinas Assyriaidd hynafol a leolir i'r de o Nineveh ar lan afon Tigris ym Mesopotamia yw Nimrud. Roedd yn cynnwys tua 16 milltir agwar o fewn ei muriau. Lleolir yr adfeilion tua 30 km i'r de-ddwyrain o ddinas Mosul yn Irac. Un o'i henwau hynafol oedd Kalhu. Fe'i galwyd yn Nimrud gan yr Arabiaid ar ôl yr arwr chwedlonol Nimrod y cyfeirir ato yn y Beibl fel helwr nerthol (cf. Genesis 10:11-12; Micah 5:6; I Cronicl 1:10).

o Nimrud.]]

Mae Nimrud wedi ei uniaethu â safle'r ddinas Beiblaidd Calah neu Kalakh. Cyhoeddwyd Nimrud yn brifddinas ymerodraeth Assyria gan y brenin Shalmaneser I yn y 13eg ganrif CC, pan oedd eisoes wedi sefyll am dros fil o flynyddoedd. Daeth yn enwog fel prifddinas y brenin mawr Ashurnasirpal II o Assyria (c. 880 CC). Cododd balas anferth a themlau yno. Disgrifir y wledd i ddathlu cwblhau'r gwaith yn 879 CC ar stele a ddarganfuwyd yno. Roedd tua 100,000 o bobl yn byw yno yn amser Ashurbannipal, ac roedd y ddinas yn addurnedig â gerddi botanegol a sw. Cododd y brenin Shalmaneser III (858-824 CC), mab Ashurbannipal, y Ziggurat Fawr a theml gerllaw. Atgyweirwyd y palas gan yr archaeolegwyr ac mae'n un o ddwy enghraifft yn unig o balas Assyriaidd, gyda phalas Sennacherib yn Nineveh.

Parhaodd yn brifddinas Assyria tan 710 CC pan symudwyd y brifddinas i Khorsabad ac wedyn Nineveh. Ond parhaodd yn ganolfan bwysig gyda phalas brenhinol nes iddi gael ei difetha yn 612 CC pan syrthiodd Assyria i'r Mediaid a'r Babiloniaid.

Cloddiwyd safle Nimrud am y tro cyntaf rhwng 1845 a 1851 gan Austen Henry Layard. Cyhoeddwyd ffrwyth ei waith yn y llyfr enwog Nineveh and Its Remains (neu Discoveries at Nineveh), a gafodd ddylanwad mawr ar astudiaethau Beiblaidd. Mae eraill a fu'n llafurio yn cynnwys Hormuzd Rassam (1853-54 a 1877-79), W. K. Loftus (1854-55), George Smith (1873), Max Mallowan (1949-57), David Oates (1958-62), Julian Orchard (1963), Gwasanaeth Hynafiaethau Irac (1956, 1959-60, 1969-78 a 1982-92), Janusz Meuzynski (1974-76), Poalo Fiorina (1987-89) a John Curtis (1989).

Darganfuwyd nifer o bas-reliefs trawiadol, gwaith ifori, a chefluniau anferth, yn cynnwys un o Ashurnasirpal II a llewod gyda phennau dynol yn gwarchod porth y palas winged, yn ogystal ag arysgrifiadau niferus am deyrnasiad Ashurnasirpal II sy'n ei wneud y brenin mwyaf adnabyddus o'r cyfnod hwnnw yn y Dwyrain Canol. Darganfuwyd temlau cysegredig i Ninurta ac Enlil, a Nabu, duw'r celfyddydau.

Cafwyd hyd i balasau Ashurnasirpal II, Shalmaneser III, and Tiglath-Pileser III. Darganfuwyd Obelisc Du enwog Shalmaneser III gan Layard yn 1846. Mae'n dathlu buddugoliaethau'r brenin yn y cyfnod 859-824 CC.

Mae'r "Trysor Nimrud" yn gasgliad o 613 darn o addurnwaith aur a gemau gwerthfawr. Er i archaeolegwyr ofni ei fod wedi diflannu yn yr ysbeilio a ddigwyddodd ym Magdad ar ôl cwymp Saddam Hussein, cafodd ei "ail-ddarganfod" yn 2005.

Dolenni allanol

Rhestrir yn y categorïau canlynol:
مرحلة ما بعد تعليق
Awgrymiadau
ترتيب بواسطة:
لا توجد نصائح أو تلميحات لـ Nimrud حتى الآن.ربما تكون أول من ينشر معلومات مفيدة لزملائه المسافرين؟:)

Gwestai gerllaw

Gweld pob gwesty Gweld popeth
DoubleTree by Hilton Van

gan ddechrau $50

Elite World Van Hotel

gan ddechrau $71

In the Historical Center of Mardin

gan ddechrau $0

Shmayaa Hotel

gan ddechrau $96

Dara Konag?

gan ddechrau $25

Mardius Tarihi Konak

gan ddechrau $209

Golygfeydd argymelledig gerllaw

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Mar Behnam Monastery

Monastery of the Martyrs Saint Behnam and his Sister Sarah (syr.

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Dair Mar Elia

Dair Mar Elia (syr. ܕܝܪܐ ܕܡܪܝ ܐܝܠܝܐ, Arabic: دير مار إيليا) (kno

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Ninefeh

Prifddinas Ymerodraeth Newydd Assyria hynafol a leolir mewn Mosul,

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Mashki Gate

Mashki Gate are one of the gates of an ancient Nineveh city in Iraq.

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Ninefeh

Prifddinas Ymerodraeth Newydd Assyria hynafol a leolir mewn Mosul,

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Ninefeh

Prifddinas Ymerodraeth Newydd Assyria hynafol a leolir mewn Mosul,

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Mar Oraha Monastery

Saint Oraha Monastery (syr. ܕܝܪܐ ܕܡܪܝ ܘܪܐܗܐ‏), is a Chaldean Catho

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Assur

Assur (also spelled Ashur, from Assyrian

مناطق الجذب السياحي مماثلة

Gweld popeth Gweld popeth
Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Sardis

Sardis, also Sardes (Lydian: Sfard, Greek: Σάρδεις, Persian: سارد S

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Harran

Harran, also known as Carrhae, is a district of Şanlıurfa Province i

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Antakya

Dinas hanesyddol yn nhalaith Hatay yn ne-orllewin Twrci, ger y Môr

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Tel Aviv

Tel Aviv neu Tel Aviv-Yafo (Hebraeg:תֵּל־אָבִיב-יָפוֹ} , 'Bryn y Gwanw

Ychwanegu i restr dymuno
Rydw i wedi bod yma
Wedi ymweld
Hierapolis

Hierapolis (Greek: Ἱεράπολις 'holy city') was the ancient Greek cit

الاطلاع على كل الأماكن متشابهة