Oriel gelf a leolir yng Nghaeredin yn yr Alban yw Oriel Genedlaethol yr Alban (Saesneg: National Gallery of Scotland). Mae ei chasgliad o gelfweithiau, yn dyddio o dua 1300 i tua 1900, yn cynnwys gweithiau gan Raphael, Titian, El Greco, Diego Velázquez, Rembrandt, Peter Paul Rubens, Jan Vermeer, J. M. W. Turner a llawer o'r Argraffiadwyr ac Ôl-Argraffiadwyr. Mae'r oriel yn un o blith llawer yn sefydliad Orielau Cenedlaethol yr Alban, sydd hefyd yn cynnwys orielau arbennig ar gyfer portreadau a chelf fodern.
Lleolir y casgliad mewn adeilad glasurol ar The Mound, rhwng hen dref a thref newydd Caeredin, gan y pensaer William Henry Playfair. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Tywysog Albert ym 1850, ac fe agorodd i'r cyhoedd ym 1859. Mae estyniad tanddaearol bellach yn cysylltu'r oriel ag adeilad Academi Frenhinol yr Alban.