Vélodrome yn 16ed arrondissement Paris, Ffrainc oedd Parc des Princes yn wreiddiol, a lleoliad diwedd y Tour de France ers ei gychwyn yn 1903 hyd dymchwel y trac. Erbyn hyn mae'n gartref i dîm pêl-droed Paris Saint-Germain (PSG), gyda 48,712-sedd. Hon oedd y stadiwm cenedlaethol tan i'r Stade de France gael ei adeiladu ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 1998. Mae stadiwm y Parc des Princes yn eiddo i Ddinas Paris. Parc des Princes ("Parc y Tywysogion") oedd yr enw a roddwyd i'r ardal oamgylch y stadiwm yn ystpd yr 18fed ganrif, pan oedd yn goedwig a ddefnyddwyd gan y teulu brenhinol ar gyfer hela.