Prifddinas seremonïol Ymerodraeth Persia yn y cyfnod Achaemenaidd oedd Persepolis (Hen Berseg: Pārsa, Perseg: تخت جمشید/پارسه, Takht-e Jamshid neu Chehel Minar). Daw'r ffurf "Persepolis" o'r Groeg Πέρσης πόλις (Dinas Persēs). Saif yn yr hyn sy'n awr yn dde Iran, gerllaw mynyddoedd Zagros.
Credir i Cyrus Fawr ddewis safle Persepolis, ond mai yn nheyrnasiad Darius I yr adeiladwyd y rhan fwyaf ohoni, yn arbennig Palas Apadana a'r adeiladau amgylchynol.
Yma yr oedd prif drysorfa'r ymerodraeth, a phan gipiwyd y ddinas gan Alecsander Fawr yn 330 CC roedd trysor enfawr yma. Rai misoedd yn ddiweddarch, llosgwyd Persepolis; nid oes sicrwydd a oedd hyn yn ddamweiniol neu'n fwriadol, efallai fel dial am losgi Athen gan y Persiaid yn ystod Rhyfeloedd Groeg a Phersia.