Dinas hanesyddol ac archeolegol yn ne Gwlad Iorddonen yw Petra ( Arabeg: ٱلْبَتْرَاء Al-Batrāʾ ; Groeg yr Henfyd: Πέτρα), a oedd yn wreiddiol yn cael ei hadnabod gan ei thrigolion fel Raqmu. Mae Petra yn gorwedd ar lethr Jabal Al-Madbah mewn basn ymhlith y mynyddoedd sy'n ffurfio ochr ddwyreiniol y dyffryn Araba sy'n rhedeg o'r Môr Marw i Gwlff Aqaba.
Credir fod pobl wedi ymgartrefu yn Petra mor gynnar â 9,000 CC, a bod y ddinas wedi'i sefydlu fel prifddinas Teyrnas Nabataeaidd tua'r 4g CC. Roedd y Nabataeaid yn Arabiaid nomadig a fuddsoddodd yn agosrwydd Petra at y llwybrau masnach drwy ei sefydlu fel canolbwynt masnach y rhanbarth.
Llwyddodd y Nabateaid i sicrhau cyfalaf trwy fasnachu effeithiol a daeth Petra'n ganolbwynt i'w cyfoeth. Ceir cyfeiriad at ymosodiad ar y ddinas dan orchymyn Antigonus I yn 312 CC. Roedd y Nabataeaid, yn wahanol i'w gelynion, yn gyfarwydd â byw yn yr anialwch diffaith, ac roeddent yn gallu gwrthyrru ymosodiadau trwy ddefnyddio tir mynyddig yr ardal. Roeddent yn arbennig o fedrus wrth gasglu dŵr glaw, amaethu a cherfio cerrig. Ffynnodd Petra yn y 1g OC pan adeiladwyd y deml Al-Khazneh enwog - fel beddrod i'r Brenin Nabataeaidd Aretas IV, yn ôl pob tebyg, a chyrhaeddodd poblogaeth y ddinas ei huchafbwynt o tua 20,000 o drigolion.
Er i'r Deyrnas Nabataeaidd droi'n wladwriaeth ddibynnol ar yr Ymerodraeth Rufeinig yn y ganrif gyntaf CC, dim ond yn 106 OC y collwyd ei hannibyniaeth. Syrthiodd Petra i ddwylo'r Rhufeiniaid, a aeth ati i'w chysylltu â Nabataea a'i hailenwi yn Arabia Petraea. Lleihaodd pwysigrwydd Petra wrth i lwybrau masnach y môr ddod i'r amlwg, ac ar ôl i ddaeargryn 363 ddinistrio llawer o strwythurau. Gwelodd y Cyfnod Bysantaidd nifer o eglwysi Cristnogol yn cael eu hadeiladu, ond parhaodd y ddinas i ddirywio, ac erbyn dechrau'r cyfnod Islamaidd daeth yn lle gwag lle yr oedd llond llaw yn unig o nomadiaid yn byw. Nid oedd yn hysbys i'r byd hyd nes iddo gael ei ailddarganfod yn 1812 gan Johann Ludwig Burckhardt.
Ceir mynediad i'r ddinas trwy geunant Siq, sy'n 1.2 cilomedr (0.75 milltir) o hyd ac yn arwain yn uniongyrchol at y Khazneh. Mae Petra hefyd yn enwog am ei phensaernïaeth sydd wedi'i naddu o'r graig a'i system dŵr, a elwir hefyd yn "Ddinas y Rhosyn" oherwydd lliw'r garreg y mae wedi'i naddu ohoni. Mae wedi bod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1985. Mae UNESCO wedi ei ddisgrifio fel "un o nodweddion diwylliannol mwyaf gwerthfawr treftadaeth dyn". Yn 2007, pleidleisiwyd Al-Khazneh yn un o 7 Rhyfeddod Newydd y Byd . Mae Petra'n symbol o Wlad Iorddonen, yn ogystal a'i hatyniad twristiaeth mwyaf poblogaidd. Daeth miliwn o dwristiaid i'w gweld yn 2010, ond gwelwyd gostyngiad yn y blynyddoedd wedi hynny oherwydd ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y rhan honno o'r byd. Serch hynny, ymwelodd tua 800,000 o dwristiaid â'r safle yn 2018.