Mae Pont yr Ochneidiau (Eidalen: Ponte dei Sospiri) yn un o amryw o bontydd yn Fenis. Adeiladwyd y bont caëdig hwn o galchfaen gwyn ac mae ganddo ffenestri gyda bariau carreg. Mae'r bont yn croesi'r Rio di Palazzo a chysyllta'r hen garchardai i'r ystafelloedd arteithio ym Mhalas Doge. Cynlluniwyd y bont gan Antoni Contino (a oedd yn nai i Antonio da Ponte a gynlluniodd Pont Rialto), a chafodd ei adeiladu yn 1602.