Capel yn yr arddull Gothig yn nghanol dinas Paris yn Ffrainc yw Sainte-Chapelle. Saif yn ardal Île de la Cité, ac fe'i hystyrir yn un o gampweithiau'r arddull Gothig.
Adeiladwyd y Sainte-Chapelle i ddal y creiriau crefyddol a ddygwyd i Ffrainc o Syria gan Louis IX, brenin Ffrainc. Roedd y rhain yn cynnwys y goron ddrain a phen haearn y waywffon a ddefnyddiwyd pan groeshoeliwyd Iesu Grist. Mae'n debyg i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 1241, ac fe'i cysegrwyd yn 1248. Credir mai Pierre de Montreuil oedd yn gyfrifol am y gwaith.
Mae'r adeilad yn cynnwys dau gapel, y capel isaf ar gyfer y bobl gyffredin a'r capel uchaf ar gyfer y brenin a'i lys. Ystyrir gwydr lliw ffenestri'r capel uchaf ymhlith yr esiamplau gwychaf o wydr lliw eglwysig.