Mae Swnt Milford yn fjord ar Ynys y De, Seland Newydd, yn ardal Fjordland.
Darganfuwyd y swnt gan y bobl Maori dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Enw Maori y swnt yw Piopiotahi. Daeth yr enw Saesneg, Milford Sound, o’r enw Saesneg – Milford Haven – am Aberdaugleddau. Mae mwy o law yn disgyn yn y swnt - cyfartaledd o 6,813 milimedr yn flynyddol – nac unrhyw le arall yn Seland Newydd.