Theatr hanesyddol ym Moscfa, Rwsia, yw'r Theatr Bolshoi (Rwsieg: Большо́й теа́тр, tr. Bol'shoy Teatr, IPA: ]), a ddyluniwyd gan y pensaer Joseph Bové ac sy'n enwog am yr operâu a'r balet a gaiff eu cynnal yno.
Caiff ei gyfri'n dirnod amlwg yn Rwsia oherwydd pensaerniaeth neoglasurol ei ffasâd, sydd i'w weld ar bapur 100-ruble. Ar 28 Hydref 2011 ailagorwyd y Bolshoi wedi chwe mlynedd o waith adnewyddu.