Siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mro Morgannwg yw Siambr Gladdu Tinkinswood, a adwaenir hefyd fel Castell Carreg, Llech-y-Filiast a Maes-y-Filiast. Saif ychydig i'r de o bentref Sain Nicolas, i gyfeiriad Llwyneliddon.
Mae'r siambr gladdu o'r math Hafren-Cotswold, gyda charreg glo enfawr, yn pwyso tua 36 tunnell fetrig, efallai y fwyaf yn Ewrop. Fe'i hadeiladwyd tua 4000 CC. Cloddiwyd y safle yn 1914, a chafwyd gweddillion tua 40 neu fwy o bobl, o'r ddau ryw ac o bob oed, ynghyd a chrochenwaith. Codwyd piler o frics i ddiogelu'r garreg glo yr un pryd. Mae'r safle yng ngofal Cadw.