Mae Tŵr Capu Neru (Corseg:Torra di Capu Neru) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Coti-Chiavari (Corse-du-Sud) ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Mae'r tŵr yn eistedd ar uchder o 119 metr (390 troedfedd) ar bentir Capu Neru. Mae'n un o dri thŵr yn y gymuned y ddau arall yw Torra di a Castagna a Torra di Capu di Muru.
Cychwynnwyd adeiladu'r tŵr ym 1597. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari. Ym 1994 fe restrwyd y tŵr fel un o henebion hanesyddol (Monument historique) Ffrainc.
O ffordd y D155, mae ffordd fechan yn mynd i lawr tuag at Cala di Cigliu. Ar derfyn y ffordd fechan mae'r tŵr ar daith gerdded tua 15 munud ar hyd llwybr trwy'r llystyfiant sydd wedi ei gynal yn gymharol dda. Er nad yw wedi ei hadfer, mae wedi goroesi yn eithaf da ac eithrio'r rhyngdyllau ar y teras sy'n dirywio ychydig. Mae'r safle yn cynnig golygfa odidog o Gwlff Valinco