Cyfuniad o bont siglog a phont grog yn Llundain, Lloegr yw Tower Bridge, sydd yn croesi'r Afon Tafwys. Daw'r enw o'r tŵr enwog sydd gerllaw, Tŵr Llundain. Cysylltai ardal y Borough i'r de â chanol Dinas Llundain i'r gogledd. Wedi ei hagor ar 30ain o Fehefin 1894, mae bellach wedi datblygu i fod yn symbol eiconig o Lundain. Caiff ei chamgymryd yn aml fel London Bridge, y bont nesaf i fyny'r afon.