Tref yn Ffrainc, tua 19 km i'r de-orllewin o ddinas Paris, yw Versailles. Mae'n brifddinas dépaertement Yvelines. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 85,726.
Mae Versailles yn adnabyddus oherwydd y Château de Versailles, a adeiladwyd gan Louis XIII, brenin Ffrainc ac a ehangwyd gan ei fab, Louis XIV.
Ymhlith y digwyddiadau pwysig yma, mae Heddwch Versailles yn 1783, cyhoeddi Ymerodraeth yr Almaen yn 1871 a Cytundeb Versailles yn 1919.