Penref yn y rhan Almaeneg ei iaith o ganton Valais yn y Swistir yw Zermatt. Saif wrth droed y Matterhorn, tua 10 km o'r ffîn a'r Eidal. Mae'r boblogaeth tua 4,000, a saif 1,620 medr uwch lefel y môr.
Oherwydd ei leoliad, mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid, gan gynnwys ymweliadau ar gyfer chwaraeon gaeaf. Ni cheir mynd a moduron i'r pentref; rhaid eu gadael yn Täsch, a chymeryd y trên i'r pentref. Defnyddir certiau trydan i deithio o amgych y pentref ei hun.